Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(277)v3

 

<AI1>

        Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

        Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

        Cynnig o dan Rheol Sefydlog 17.3 i ethol eilyddion ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (5 munud)

NDM5810 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol fel eilyddion o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

 

Ann Jones (Llafur) ar gyfer Mick Antoniw (Llafur), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar gyfer Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig), Elin Jones (Plaid Cymru) ar gyfer Llyr Gruffydd (Plaid Cymru), ac Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) ar gyfer Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).

</AI3>

<AI4>

        Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud)

NDM5800 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfer 2014-15, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

</AI4>

<AI5>

        Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5801 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd safon uchel o addysg ar gyfer disgyblion yng Nghymru er mwyn cynyddu eu gallu i gystadlu yn genedlaethol ac yn fyd-eang;

 

2. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd gormod o amser i ddatblygu mesurau i godi safonau ysgolion yng Nghymru;

 

3. Yn credu nad yw consortia rhanbarthol mor effeithiol ag y mae angen iddynt fod o ran helpu i wella ysgolion; a

 

4. Yn credu bod polisi ieithoedd tramor modern Llywodraeth Cymru o greu canolfannau rhagoriaeth yn annigonol i fynd i'r afael â'r angen i godi safon y ddarpariaeth ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu bod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â gwella ysgolion wedi bod yn gymysglyd, gan arwain at oedi ac anghysondeb.

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi'r canfyddiad gan yr Athro Donaldson yn ei adolygiad y bydd 'y gallu i ddysgu ieithoedd tramor modern yn cael ei hybu drwy ddatblygu'r Gymraeg yn gynharach'.

 

Mae adolygiad yr Athro Donaldson 'Dyfodol Llwyddiannus Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru' ar gael yn:

 

http://gov.wales/docs/dcells/publications/150317-successful-futures-cy.pdf

 

[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 4:

 

'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau a gaiff eu monitro'n agos ar gyfer y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern er mwyn atal y dirywiad yn y pynciau hynny.'

</AI5>

<AI6>

        Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu y dylai'r system addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella safonau addysg;

 

2. Yn galw am godi safonau proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr a gwella datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan; a

 

3. Yn galw am ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y gall corff cofrestru proffesiynol helpu gyda gwelliant parhaus staff a myfyrwyr addysgu ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn sicrhau ei fod yn atebol fel sy'n briodol.

 

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ym mhwynt 2, dileu pob dim ar ôl 'Meistr' a rhoi yn ei le:

 

'ac yn galw am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan, ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a'

 

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru cyn belled â bod digon o adnoddau'n cael eu trosglwyddo.

 

[os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt 3.

</AI6>

<AI7>

        Cyfnod pleidleisio 

</AI7>

<AI8>

        Dadl Fer  

NDM5794 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)

 

Y bygythiad o radicaleiddio Islamaidd: Sut y gallwn fynd i'r afael ag eithafiaeth drwy gydweithio.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>